Pennaeth Addysgu – yn Arwain Rhagoriaeth Addysgol

Pennaeth Addysgu – yn Arwain Rhagoriaeth Addysgol

Mae hwn yn gyfle prin i greu traweffaith gwirioneddol ar wella ysgolion, darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, a moderneiddio ysgolion ar draws y bro. Gan weithio gyda grŵp craidd o ddarparwyr addysg anhygoel, cydweithwyr mewnol ac Aelodau Etholedig fel ei gilydd, bydd y rôl hon yn addas i rywun sydd â’r un angerdd ac uchelgais. Gyda chynllun strategol tair blynedd eglur, byddwch yn ymuno gyda’r gyfarwyddiaeth fwyaf yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda ffocws cadarn ar adeiladu ar y perthnasoedd gwych sydd eisoes yn bodoli a darparu ar gyfer y dyfodol gyda’ch gilydd. Bydd gennych brofiad sylweddol o fewn y sector addysg, yn ddelfrydol ar lefel Pennaeth/Cyfarwyddwr Cynorthwyol o fewn awdurdod lleol neu fel Pennaeth, a byddwch yn ffurfio rhan o’n tîm o weithwyr proffesiynol addysg sy’n perfformio’n dda ac sy’n ffocysu ar wella deilliannau addysg ar gyfer ein pobl ifanc.

Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion – Trawsffurfio Bywydau a Chymunedau

Mae hyn yn gyfle unigryw i arwain tîm dynamig sy’n perfformio’n dda ac sydd wedi ymrwymo i wella bywydau oedolion yn ein cymuned. Byddwch yn chwarae rôl arweinyddol canolog, sy’n goruchwylio gwasanaethau o safon uchel, yn gyrru newid trawsffurfiol ac yn meithrin partneriaethau bro cryf gyda chydweithwyr iechyd, darparwyr a gomisiynwyd, yr heddlu/gwasanaeth prawf a’r sector gwirfoddol.

Gyda datblygiad ein cynllun strategol tair blynedd newydd, eich rôl fydd gyrru darparu’r amcanion hyn yn effeithiol, gyda ffocws eglur ar ddarparu gwasanaeth integredig, atal a lles. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn chwilio am ymgeisydd gyda phrofiad helaeth ar lefel uwch naill ai o fewn gofal cymdeithasol, iechyd neu sector sydd wedi’i alinio gyda hwy. Byddwch yn arddangos dealltwriaeth gref o fodelau gofal cymdeithasol, gan ddarparu’r gwerth gorau a’ch sgiliau trawsffurfiol, strategol. Mae craffter gwleidyddol datblygedig yn hanfodol, gan y byddwch yn gweithio’n agos gyda’n Haelodau Etholedig a’r Cabinet er mwyn gyrru uchelgeisiau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu blaen.