Pennaeth Addysgu – yn Arwain Rhagoriaeth Addysgol

Pennaeth Strategaeth, Blynyddoedd Cynnar ac Ieuenctid

Mae hwn yn gyfle prin i lunio dyfodol darpariaeth blynyddoedd cynnar, gwasanaethau ieuenctid gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid, a gwasanaethau cymorth allweddol fel cludiant ysgol ac arlwyo.

Byddwch yn chwarae rôl ganolog wrth gyflawni ein Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf Moderneiddio Ysgolion gwerth £100m a mwy, yn ogystal ag arwain ar drefniadau iechyd a diogelwch corfforaethol a threfniadau diogelu yn y Gyfarwyddiaeth Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc.  Gan weithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Pennaeth Dysgu, byddwch yn helpu i ysgogi newid trawsnewidiol, gan sicrhau bod ein gwasanaethau’n ymatebol, yn arloesol, ac yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Pennaeth Gwasanaeth – Tir y Cyhoedd

Mae hwn yn gyfle prin i arwain portffolio amrywiol o wasanaethau statudol a gwasanaethau sy’n wynebu’r cyhoedd, gan gynnwys Cynllunio a Datblygu, Adfywio Strategol, Datblygu Economaidd, Mannau Gwyrdd, Gwasanaethau Profedigaeth a Chynaliadwyedd.

Yn y rôl newydd hon, byddwch hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth lunio dyfodol cymunedau drwy strategaethau arloesol a newidi trawsnewidiol. Gan weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a rhagoriaeth weithredol, gan sicrhau bod rhaglenni cyfalaf a’n strategaethau adfywio yn cael eu cyflawni, yn ogystal ag arwain gwasanaethau datblygu economaidd gan sicrhau eu bod yn cael eu darparu’n effeithiol, yn bodloni gofynion statudol, ac ymateb i anghenion sy’n datblygu ein trigolion.