Cefndir y cyngor

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awdurdod unedol sy’n cyflogi tua 6,000 o bobl (gan gynnwys ysgolion) sy’n gweithio ar draws cwmpas llawn gwasanaethau’r Cyngor ac mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o sefydliadau. 

Mae trigolion yn cael eu cynrychioli gan 51 o gynghorwyr ac mae’r weinyddiaeth wleidyddol bresennol fel a ganlyn:

  • Llafur – 26
  • Cynghrair Ddemocrataidd – 8 – yn cynnwys annibynwyr (4), Annibynwyr Llynfi (3), Plaid Cymru (1)
  • Annibynwyr Sir Pen-y-bont ar Ogwr – 13
  • Ceidwadwyr – 1
  • Annibynnol – 1
  • Annibynnol – 1
  • Reform – 1

Mae’r Cyngor yn cynnwys pum cyfarwyddiaeth, o dan arweiniad y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol:

  • Y Prif Weithredwr
  • Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
  • Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc
  • Cymunedau
  • Trawsnewid a Chyllid
Corporate Plan Welsh

Ein Cynllun Corfforaethol

Y Cynllun Corfforaethol yw’r brif ddogfen strategol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r Cynllun yn rhoi manylion ein gweledigaeth a’n nodau hirdymor. Mae’n nodi’r meysydd blaenoriaeth i helpu i dargedu adnoddau a’r ymrwymiadau i helpu i gyflymu cyflymder y cynnydd.

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi cynllun cyflawni i’n helpu i gyflawni’r Cynllun Corfforaethol. Mae cysylltiad agos rhwng hyn â’r gyllideb a’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn. Rydym wedi symleiddio ein cynlluniau a bellach mae gennym bedwar amcan llesiant ar gyfer TÎM Pen-y-bont ar Ogwr-:

 

  • FFYNIANNUS – Lle llewyrchus gyda chymunedau ffyniannus
  • GRYMUSO – Cefnogi ein rhai mwyaf agored i niwed
  • CYFLAWNI – Galluogi pobl i gyflawni eu potensial
  • MODERNEIDDIO – Creu gwasanaethau cyhoeddus modern, di-dor

Ein harian

Mae’r blaenoriaethau yn y cynllun hwn wedi’u datblygu ochr yn ochr â chynlluniau ariannol manwl iawn, i sicrhau y gallwn fforddio eu cyflawni. Gan ystyried gwariant a gwasanaethau sy’n cael eu hariannu gan grantiau penodol neu ffioedd a thaliadau, bydd cyllideb gros y Cyngor tua £530 miliwn yn 2025-26.

Daw’r rhan fwyaf o’n cyllid refeniw gros gan Lywodraeth Cymru (52%) drwy’r Grant Cynnal Refeniw a chyfran o ardrethi annomestig. Rydym yn ategu hyn drwy gasglu’r dreth gyngor (20%), grantiau eraill (19%) a ffioedd a thaliadau (9%).

I ble mae ein cyllideb yn mynd? Mae cyllideb refeniw net y Cyngor wedi’i chynllunio ar £383.226 miliwn ar gyfer 2025-26.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gyllideb y Cyngor ar gyfer 2025-26 yn ein Llyfr Cyllideb 2025-26.