Cyfarwyddwr Corfforaethol - Trawsnewid a Chyllid - Ymgeisio Nawr - Cymraeg

Cyfarwyddwr Corfforaethol – Trawsnewid a Chyllid 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 

Cyflog: Hyd at £132,450 

Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr / Gweithio Ystwyth 

Rôl arwain cyllid a thrawsnewid unigryw gyda’r cyfle i lunio dyfodol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dechrau pennod newydd gyffrous. 

Gydag uwch dîm arwain sefydlog ac uchelgeisiol, cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer newid a sylfeini cryf ar draws y sefydliad, rydym yn chwilio am arweinydd eithriadol i fod yn Gyfarwyddwr Corfforaethol – Trawsnewid a Chyllid nesaf i ni a chyflawni rôl Swyddog Adran 151. 

Mae’r cyfle hwn yn codi yn dilyn ymddeoliad deiliad swydd uchel ei barch sy’n gadael cyllid a sylfeini corfforaethol y Cyngor mewn sefyllfa gref. Mae ein stiwardiaeth ariannol yn cael ei chydnabod fel un o’n cryfderau, wedi’i chefnogi gan dîm cyllid galluog yn dechnegol a sefydledig, dull darbodus o fenthyca a buddsoddi ac ymrwymiad clir i gynaliadwyedd hirdymor. 

Ond nid rôl ariannol yn unig yw hon. 

Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu gweithredu fel arweinydd corfforaethol strategol ar draws y sefydliad cyfan wrth wraidd ein rhaglen newid. Rhywun sy’n deall cyllid llywodraeth leol, ond sy’n greadigol ac sydd hefyd yn gallu gweld y tu hwnt i’r rhifau i helpu i lunio gwasanaethau, datgloi cyfleoedd a sbarduno trawsnewid. 

A chithau’n Gyfarwyddwr Corfforaethol, byddwch yn arwain portffolio eang sy’n cwmpasu cyllid, archwilio, TGCh, gwasanaethau cwsmeriaid a rheoli rhaglenni a thrawsnewid. Felly, ni fydd gennych gyllid fel galluogwr newid yn unig, bydd gennych reolaeth uniongyrchol dros ein rhaglen newid gyda thechnoleg yn chwarae rhan ganolog. Drwy hyn byddwch yn cefnogi’r Prif Weithredwr i ysgogi ein rhaglen uchelgeisiol o foderneiddio sefydliadol a gwelliant parhaus, gan ein helpu i ailgynllunio sut rydym yn gweithio, cryfhau rheoli risg a sicrhau ein bod yn parhau i fod yn addas ar gyfer y dyfodol. 

Byddwch yn arwain agenda trawsnewid y Cyngor ar adeg o fuddsoddi sylweddol mewn gallu digidol, arloesi a datblygu arweinyddiaeth. O harneisio’r cyfleoedd a gyflwynir gan dechnolegau digidol ac AI, i greu ffyrdd newydd o weithio a chryfhau effeithiolrwydd sefydliadol, byddwch yn helpu i lunio cyfeiriad y Cyngor yn y dyfodol. 

Byddwch hefyd yn goruchwylio strategaeth ariannol a chynllunio buddsoddi ar gyfer rhai o’r cyfleoedd adfywio mwyaf arwyddocaol yng Nghymru. Rydym yn cyflwyno rhaglenni buddsoddi mawr ledled Porthcawl, Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a lleoliadau twf allweddol eraill. Bydd rheoli’r fframwaith ariannol sy’n galluogi’r datblygiadau uchelgeisiol hyn i lwyddo yn rhan hanfodol o’r rôl. 

Yn wahanol i lawer o gynghorau, mae gennym y capasiti i feddwl yn strategol am ein dyfodol. Mae ein rheolaeth ariannol ddarbodus wedi arwain at un o’r lefelau isaf o fenthyca yng Nghymru, gan greu cyfleoedd i fuddsoddi, arloesi a chefnogi twf cynaliadwy. Rydym yn chwilio am arweinydd sy’n gallu gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd hynny yn gyfrifol ac yn greadigol. 

Mae hon yn rôl i unigolyn sy’n gallu cyfuno hygrededd technegol ag ymwybyddiaeth wleidyddol, meddwl masnachol ac arweinyddiaeth drawsnewidiol. Byddwch yr un mor gyfforddus yn cynghori Aelodau ar strategaeth ariannol, arwain rhaglenni newid ar raddfa fawr, adeiladu gallu sefydliadol a datblygu partneriaethau cryf ar draws y rhanbarth a thu hwnt. 

Mae hon yn rôl i unigolyn sy’n croesawu newid ac eisiau gweithio mewn tîm corfforaethol dynamig, hwyliog sy’n perfformio’n dda, gan wneud y mwyaf o’n buddsoddiadau a helpu i’n harwain i ddull mwy proffesiynol o reoli risg sy’n annog creadigrwydd ym mhob rhan o’r sefydliad. 

Ar gyfer yr unigolyn cywir, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle gwirioneddol i ehangu eich profiad arweinyddiaeth gorfforaethol. Gan weithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr, y Cabinet a’r Uwch Dîm Arwain, byddwch wrth wraidd llunio dyfodol y Cyngor a’r fwrdeistref sirol, gan ennill yr ehangder o brofiad a allai eich lleoli ar gyfer cyfleoedd Prif Weithredwr yn y dyfodol. 

Os ydych yn arweinydd cyllid cymwysedig CCAB gyda hanes o arweinyddiaeth strategol, trawsnewid sefydliadol a chyflawni newid ar raddfa fawr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Os ydych yn rhannu ein huchelgais, ein gwerthoedd a’n hawydd am newid ystyrlon, rydym am glywed gennych.  

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://join-bridgend.co.uk/  neu siaradwch â’n partneriaid chwilio gweithredol GatenbySanderson: Louise Bickley (07586 715788) neu Gary Evans (07809 195593).  

Dyddiad Cau: 11.59 pm ddydd Sul 11 Hydref 2026

Sut i Wneud Cais

  • Cyflwynwch eich CV ynghyd â Datganiad Ategol sy’n cyfeirio at y meini prawf ym manyleb y person, gan ddangos tystiolaeth o’r ffyrdd rydych yn bodloni’r meini prawf.
  • Esboniwch unrhyw fylchau mewn cyflogaeth neu addysg.
  • Byddwch yn barod i roi enwau, swyddi, sefydliadau a manylion cyswllt ar gyfer dau ganolwr; dylech sicrhau mai eich cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar yw un ohonynt. Byddwn yn cysylltu â chanolwyr yr ymgeiswyr a fydd yn symud ymlaen i’r camau terfynol. Byddwn bob amser yn gofyn am eich caniatâd cyn cysylltu â chanolwyr.
  • Rhowch wybod i ni am unrhyw anhawster a all fod gennych o ran yr amserlen ddangosol.
  • Sicrhewch fod eich manylion cyswllt yn gywir cyn i chi gyflwyno eich cais.

Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais, caiff cadarnhad wedi’i awtomeiddio ei anfon atoch drwy e-bost. Os na fyddwch wedi cael cadarnhad, e-bostiwch contactus@gatenbysanderson.com

Pwyntiau cyswllt

Yr ymgynghorwyr canlynol sy’n rheoli’r rôl hon a byddant yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau na chânt eu hateb ym manyleb y person ar y dudalen we nesaf.

Pwynt cyswllt:
Gary Evans

Rhif ffôn:
07809 195 593

Pwynt cyswllt:
Louise Bickley

Rhif ffôn:
07586 715788

All Roles

Corporate Director of Finance and Transformation Role

Employer:
Bridgend County Borough Council
Location:
Bridgend
up to £132,450:
Closing Date:
11th October, 2026
Job Ref:
GSe134827

View details