Adeiladu ar gyfer dyfodol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Diolch am eich diddordeb yn y rolau arweinyddiaeth newydd hyn yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Croeso
Croeso i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym wrth ein bodd eich bod yn ystyried ymuno â’n tîm ar adeg mor gyffrous yn ein taith. Wrth i ni barhau i drawsnewid ein sefydliad a buddsoddi yn nyfodol ein cymunedau, rydym yn chwilio am arweinydd eithriadol i ymgymryd ag un o’r rolau mwyaf dylanwadol ac eang yn y Cyngor, sef Cyfarwyddwr Corfforaethol – Trawsnewid a Chyllid.
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwmpasu tua 100 milltir sgwâr gyda phoblogaeth gynyddol o fwy na 145,000. Mae wedi’i lleoli 20 milltir i’r gorllewin o Gaerdydd, gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog, arfordir hardd, cymunedau cryf, economi sy’n tyfu a chymoedd â threftadaeth ddiwydiannol falch. Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn Gyngor uchelgeisiol gyda chyfleoedd sylweddol i ddod. Mae rhaglenni adfywio mawr eisoes yn trawsnewid lleoliadau allweddol ar draws y sir, gan gynnwys Porthcawl, Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a nifer o safleoedd twf strategol. Ein CDLl oedd y cyntaf yng Nghymru i gael ei gymeradwyo ac mae ymhlith y rhai mwyaf uchelgeisiol. Bydd y buddsoddiadau hyn yn helpu i lunio ffyniant yr ardal yn y dyfodol ac yn creu manteision parhaol i drigolion, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae’r rôl hon wrth wraidd yr uchelgeisiau hyn. Wrth gyflawni cyfrifoldebau statudol y Swyddog Adran 151, mae hyn yn llawer mwy na swydd arweinyddiaeth ariannol draddodiadol. A chithau’n Gyfarwyddwr Corfforaethol i ni, byddwch yn arwain portffolio eang sy’n cwmpasu cyllid, archwilio, TGCh, gwasanaethau cwsmeriaid, rheoli rhaglenni a thrawsnewid, gan wneud cyfraniad sylweddol at gyfeiriad y Cyngor yn y dyfodol.
Mae trawsnewid a newid yn ganolog i’n llwyddiant yn y dyfodol. Rydym wedi buddsoddi mewn cryfhau ein Huwch Dîm Arweinyddiaeth ac wedi creu’r capasiti, y gallu a’r ffocws sydd eu hangen i gyflymu newid sefydliadol. Gan weithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr ac un o’r timau corfforaethol mwyaf profiadol yng Nghymru, byddwch yn chwarae rôl arweiniol wrth ysgogi ein hagenda drawsnewid, goruchwylio rhaglenni newid mawr, hyrwyddo arloesedd a’n helpu i groesawu technolegau newydd, digidoleiddio a deallusrwydd artiffisial er mwyn gwella gwasanaethau a chanlyniadau i’n trigolion.
Byddwch yn ymuno â sefydliad sydd wedi’i adeiladu ar sylfeini cadarn. Mae ein cyllid yn cael ei reoli’n dda ac yn llwyfan ar gyfer buddsoddi strategol a chynaliadwyedd hirdymor. Rydym yn cael ein cydnabod am ein stiwardiaeth ariannol ddarbodus, gan gynnal y lefelau isaf o fenthyca yng Nghymru wrth gyflawni perfformiad ariannol cryf yn gyson. Mae ein perfformiad ym meysydd addysg, gwastraff a gwasanaethau cymdeithasol yn rhagorol. Mae’r sefydlogrwydd hwn yn creu cyfle y mae angen i ni fanteisio arno nawr. Cyfle i feddwl yn wahanol, arloesi a chefnogi uchelgeisiau’r Cyngor ar gyfer twf, adfywio a gwella gwasanaethau.
Byddwch yn etifeddu tîm sefydlog, profiadol a galluog iawn. Mae’r swyddogaeth gyllid wedi’i sefydlu’n dda ac yn cael ei pharchu, gan ddarparu’r arbenigedd cyfrifyddu i gefnogi rheolaeth ariannol ragorol y mae angen ei rhoi wrth wraidd ein rhaglen newid. Bydd hyn yn eich galluogi i ganolbwyntio ar arweinyddiaeth strategol, gweithio mewn partneriaeth a llunio cyfeiriad y sefydliad yn y dyfodol.
Rydym yn chwilio am arweinydd sy’n cyfuno hygrededd technegol â chreadigrwydd, arloesedd ac angerdd gwirioneddol am wasanaeth cyhoeddus. Rhywun sy’n gallu gweld y tu hwnt i’r rhifau, herio confensiwn, datgloi cyfleoedd, cymryd risgiau pwyllog ac ysbrydoli eraill i groesawu newid. Rydym yn bwriadu buddsoddi’n ddoeth yn ein Bwrdeistref Sirol ac rydym am i chi fod wrth wraidd hynny. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr, y Cabinet a chydweithwyr ar draws y sefydliad i helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr a sicrhau bod y Cyngor yn parhau’n ariannol gynaliadwy, yn arloesol ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Ar y safle hwn gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cyngor, a manylion am y rôl allweddol hon – Cyfarwyddwr Corfforaethol – Trawsnewid a Chyllid.
Mae gennym uchelgeisiau enfawr ar gyfer ein sefydliad, ein cymunedau a’n bwrdeistref sirol, a bydd y rôl hon yn allweddol i’n helpu i’w gwireddu. Os ydych yn credu bod gennych y profiad, yr arweinyddiaeth a’r weledigaeth i gael effaith barhaol, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Dymuniadau gorau,
